Mary Medlicott, Storyteller and Author - Storyworks
Gartref yn Sir Benfro
Cefndir

 

Cymraeg yw fy ail iaith. ’Rwyf wedi caru’r iaith ac wedi gallu ei deall a’i darllen ers fy mhlentyndod yn Abergwaun a Thŷ Ddewi. Ar ôl dechrau gweithio fel storiwraig, penderfynais fod rhaid i fi ddysgu siarad yn rugl er mwyn gallu dweud storïau yn y Gymraeg.
 
Erbyn hyn, ’rwyf wedi cael tipyn o ymarfer. ’Rwyf wedi gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg gyda babanod a phlant iau mewn nifer o ysgolion yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd. ’Rwy’n teimlo’n gyffyrddus wrth ddweud fy mod i yn yr un sefyllfa a’r mwyafrif ohonyn nhw. ’Rwyf i yn dysgu hefyd!

’Rwyf hefyd yn cael sbort wrth berfformio fy storïau gyda grwpiau cymunedol cymysg o oedolion a phlant, dysgwyr a Chymry Cymraeg – er enghraifft y grŵp Miri Medi yng Nghroesgoch yn Sir Benfro. Anrhydedd mawr oedd mynd fel gwraig wadd at yr Hoelion Wyth yn Nhrefin i siarad am Shemi Wâd, yr hen storïwr a oedd yn byw yn Wdig yn y ddeunawfed ganrif. ’Rwyf wedi sgrifennu amdano yn fy llyfr newydd o'i storiau, Shemi's Tall Tales.

 

Shemi mewn pasbord
Ysgolion

 

Cewch ddewis:   
  • perfformiadau neu weithdai
  • babanod neu blant iau
  • Storïau Shemi, Straeon Cymraeg neu Storïau’r Byd

Cliciwch yma am gael gweld sut i gyflwyno cais i Academi i gael cyllid tuag at ymweliad.

     
     

Ysgol Mathri, Sir Benfro
Perfformiadau

 

Cewch ddewis y rhaglen:

 

  • O Farw’n Fyw - Shemi Wâd a'i storïau

  • O Bell ac Agos – Noson o Storïau ar Lafar

Cysylltu

Rhowch ffôn neu e-bost  i siarad am beth sydd eisau:

 

e-bost:

 

ffôn symudol: 07971 008 574.
 
 
Hwyl fawr!
 
© Mary Medlicott & Storyworks 2021 | site by knowHowe Ltd